Golwg Ar Wybren Y Nos – Mis Rhagfyr 2021

Croeso i rifyn mis Rhagfyr o Olwg ar Wybren y Nos.  Fe arfer, fe fyddwn yn dewis gwrthrychau gorau wybren y nos i’w hastudio gyda’r llygaid noeth, ysbienddrych neu delesgop.  Mae nifer o ddewisiadau y mis hwn; mae llawer yn digwydd, felly gobeithiwn am ddigon o wybren glir.  Gwisgwch ddillad cynnes, mynnwch ddiod poeth a ewch tu allan!

Comed dros y Nadolig?

Mae seryddwr wedi bod yn cadw llygaid barcud ar gomed a gafodd ei darganfod yn gyntaf ar y 3ydd o Ionawr 2021.  Os eith popeth yn iawn, efallai fe fydd yn disgleirio digon er mwyn gallu ei gweld gyda’r llygaid noeth, gan roi pleser Nadoligaidd i syllwyr y sêr.  Mae Comed C/2021 A1 (Leonard) wedi bod yn teithio trwy Gysawd yr Haul tuag at yr Haul, lle bydd yn cyrraedd perihelion (y man agosaf i’r Haul) ar y 3ydd o Ionawr 2022.  Wrth i gomed deithio tuag at yr haul, mae ymbelydredd yr haul yn ymateb gyda chnewyllyn y gomed, gan greu cynffonnau sychdarth o lwch a nwy ïoneiddedig fel a darluniwyd gan yr ymwelydd diweddar, Comed Neowise.  Wrth gwrs, gall gomedau fod yn hynod o annarogan, felly cadwch lygaid barcud ar y rhyngrwyd ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf.

https://theskylive.com/cometleonard-info

Twitter: @Comet2021a1

Mae’r siart yn dangos lleoliad Comed Leonard wrth iddi deithio yn yr wybren yn ystod mis Rhagfyr.  Er hwylustod, mae’n dangos y lleoliad am 6yb bob pum diwrnod.

cliciwch yma

Cawod o Sêr Gwib

Yn ystod oriau mân y bore ar y 14eg o Ragfyr, fe fydd Cawod o Sêr Gwib Geminid ar ei hanterth, gan greu ‘sêr gwib’ llachar a chyflym.  Er bydd y Lleuad yn ei chyfnod cynnydd, mae’n werth cadw golwg am y meteorau mwyaf llachar.  Mae’r pelydrau o’r gawod sêr gwib hon yn tarddu ger y seren Castor yng nghytser yr Efeilliaid, a gwyddom mai malurion comed o 3200 Phaethon ydyw.   Mae’r malurion hyn yn teithio oddeutu 80,000 milltir (130,000 cilometr) yr awr ac yn llosgi 60 milltir (100 cilometr) uwchben arwyneb y Ddaear.

cliciwch yma.

Rhes o Blanedau (a’r Lleuad)

Fe fydd dal cyfle i astudio’r blaned Iau neu gylchoedd y blaned Sadwrn y mis hwn:  Mae’r blaned Iau yn machlud am 9.15 ar ddechrau’r mis ac am 8.30yh ar y diwedd.  Mae’r blaned Sadwrn yn machlud am 8yh ar ddechrau’r mis ac am 6.30yh ar y diwedd.

Edrychwch allan yn gynnar yn y noson tuag at y gorwel deheuol i weld rhes hyfryd o’r dair blaned a’r Lleuad.  Mae’r Lleuad ar ei chynnydd yn teithio o dan y blaned Gwener, y blaned Sadwrn a’r blaned Iau dros gyfnod o bum diwrnod, o’r 6ed o Ragfyr i’r 10fed o Ragfyr.  Fe fydd y Lleuad Newydd yn digwydd ar y 4ydd o Ragfyr a’r Lleuad Lawn ar y 19fed o Ragfyr.

cliciwch yma

Swae Glwstwr o Sêr

Mae nifer o ryfeddodau ar gyfer syllu ar y sêr i’w harchwilio y mis hwn ac mae mis Rhagfyr yn amser da i ddefnyddio’ch ysbienddrych neu delesgop er mwyn canfod clysytrau hyfryd o sêr sydd ddim rhy hwyr yn y nos.  Mae’r wybren aeafol yn llawn o sêr llachar sy’n disgleirio o gwmpas cytserau Cassioeia, Orion, Taurus, Perseus ac Auriga.  Yn yr wybren dywyll fe all bron cystadlu â Llwybr Llaethog yr Haf.  Ni fydd y lluniau sy’n darlunio bob cyster agored yn yr erthygl hon yn edrych mor fanwl trwy delesgop neu ysbienddrych oherwydd y ffordd mae ein llygaid yn canfod golau.  Mae camerâu yn gallu casglu golau ac felly yn dal fwy o fanylder, ond mae dal yn rhyfeddol i weld y gwrthrychau hyn gyda’n llygaid ein hunain pan maent o bellteroedd annychmygol o’r ddaear.

cliciwch yma

Wynebwch tua’r dwyrain, edrychwch am grŵp bach o sêr yng nghytser y Tarw, uwchben y seren llachar Aldebaran.  Nid yn unig y mae cytser Pleiades yn wledd i’r llygaid, mae’n ymddangos fel casgliad o sêr disglair trwy ysbienddrych 10×50.  Sganiwch eich ysbienddrych yn araf tua’r dwyrain yng nghytser Auriga ac fe welwch dri glwstwr agored o sêr M36, M37 a M38, sy’n hawdd i’w gweld trwy’r ysbienddrych.

Symudwch eich ysbienddrych i fyny, ac edrychwch am y seren fwyaf llachar yng nghanol cytser Perseus o’r enw Alpha Persei.  O dan ac i’r chwith mae cytser sy’n cynnwys oddeutu dwsin o sêr sydd tua 600 o flynyddoedd golau i ffwrdd.  Fe’u hadwaenir hefyd fel Grŵp Symudol Alpha Persei oherwydd eu bod yn ymddangos fel cytser ac wedi’u geni o’r un nifwl (cymylau llwch yn seiliedig ar hydrogen). Maent yn rhy wasgarog i gael eu hadnabod fel un ond maent i gyd yn symud bron yn yr un cyfeiriad trwy’r gofod.

Gan i ni ddechrau gyda chlwstwr o sêr agored ysblennydd, fe fyddwn yn gorffen gydag un arall.  O dan y cytser Cassiopeia sydd ar ffurf ‘W’ ac uwchben cytser Perseus mae Caldwell 14 a adwaenir yn fwy cyffredinol fel Clwstwr Dwbwl.   Mae’n cynnwys clystyrau agored NGC 869 a NGC884, maent 7,500 i ffwrdd oddi wrthym ac yn edrych trwy ysbienddrych fel dwy bêl gryno o sêr.  Mae pob clwstwr yn cynnwys oddeutu 400 o sêr ac yn edrych yn hynod o syfrdanol yn wybren y nos, ymhell o lygredd goleuni o waith dyn.

Hoffai tîm Wybren Dywyll Cwm Elan ddymuno Nadolig hapus a blwyddyn newydd dda i chi  gyda digonedd o wybren clir.  Gobeithiwn ddod â mwy o ddigwyddiadau syllu ar y sêr ac addysg trwy gydol y Flwyddyn Newydd.

Dark Skies Photo Feed

We would love all of our visitors to share their experiences and photos of the dark skies. Share your images with us on instagram using the hashtag #CambrianMountainsDarkSkies and add to our image feed that you see below.