Y Deg Uchaf o Fannau Natur

Hafod NRW, Pont ar Fynach, Ceredigion

Map yr Ordnans 213. Cyfeirnod grid: SN 768736.
Gwefan

Mae’r lleoliad mewn coedwig dawel, 15 milltir o Aberystwyth yn gyfuniad o goetir hynafol a gerddi tirlun hanesyddol, mewn Arddull Darluniaidd o’r ddeunawfed ganrif. Mae’n bosibl gweld olion y lle hanesyddol pwysig hwn ac ymhyfrydu yn unigedd natur.

Clod am y ddelwedd: ©Dafydd Wyn Morgan

Lleoliad

RSPB Gwenffrwd Dinas, Rhandirmwyn, Carmarthenshire

Map yr Ordnans 187. Cyfeirnod grid: SN 788471
Gwefan

Wedi’i reoli’n ofalus gan yr RSPB, mae Gwenffrwd Dinas yn noddfa i’r fantell fraith, tingochiaid, bronwennod y dŵr, a siglennod.  Gwerthfawrogwch fawredd y coetrioedd derw hynafol sy’n cynnwys derw a gwern, a chrwydrwch ger afonydd llifeiriol.

Clod am y ddelwedd: ©Janice Vincett

Lleoliad

Gilfach NNR, Rhaeadr Gwy, Powys

Map yr Ordnans 200. Cyfeirnod grid: SN 964717
Gwefan

Mae’r trysor cudd hwn, pedair milltir i’r gogledd o Raeadr wedi’i leoli yn nhawelwch Dyffryn Marteg.  P’un a’i a ydych yn gwerthfawrogi dôl, coetir derw, rhosydd yr uwchdiroedd neu afon caregog, dyma’r lle i chi.  Mae yno ddigonedd o adar ac anifeiliad ac os nad yw hynny’n ddigon, fe allwch weld yr eog wrth iddynt neidio i fyny’r afon.

Lleoliad

Coed y Bont, Pontrhydfendigaid, Ceredigion

Map yr Ordnans 187. Cyfeirnod grid: SN 737659.
Gwefan

Caiff y coetir hynafol yma ei reoli gan y gymuned, ac mae’n llawn helyg, bedw gyffredin, criafolennau, cyll, aethnenni a derw ac ni ellir gwella ar sŵn côr y bore bach.  Rhodiwch ar hyd lwybrau hawdd ac amlwg a mwynhewch natur y fforest gydol y flwyddyn.

Lleoliad

Bwlch y Nant yr Arian, Ponterwyd, Ceredigion

Map yr Ordnans 213. Cyfeirnod grid: SN 717813
Gwefan

Gyda’i lwybrau ar gyfer cerddwyr, beicwyr a rhedwyr, mae gan Fwlch Nant yr Arian olygfeydd naturiol, gan gynnwys golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.  Fe allwch weld y Barcutiaid Coch yn cael eu bwydo yn yr orsaf fwydo.

Clod am y ddelwedd: ©Charlotte Harley

Lleoliad

Cors Caron NNR, Ceredigion

Map yr Ordnans 187 and 199. Cyfeirnod grid: SN 692625.
Gwefan

Mae 170 math o adar wedi ymweld â’r ardal hon o wlyptir eang!  Nid oes rhyfedd, gan fod ganddi gymysgedd unigryw o beithynnau, glaswelltiroedd gwlyb, coetiroedd ac afonydd, nentydd a phyllau.  Cerddwch ar hyd y llwybrau pren, eisteddwch yn y cuddfannau gwylio adar cysurus a rhodiwch ar hyd lwybrau’n llawn blodau am ddiwrnod hamddenol.

Clod am y ddelwedd: ©Dafydd Wyn Morgan

Lleoliad

RSPB Carngafallt, Cwm Elan, Powys

Map yr Ordnans 200. Cyfeirnod grid: SN 936652.
Gwefan

Mae gan y coetir derw hynafol ger Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan amrywiaeth eang o adar cân.  Parciwch gerllaw, a rhodiwch ar hyd lwybrau hawdd er mwyn mwynhau goleuni’r bore yn brithio trwy’r coed.  Gwrandewch ar alwad swynol telor y coed, sŵn hyfryd y tingoch, ac edrychwch am fflach du a gwyn wrth i fronfraith y dŵr chwilio am frecwast yn Afon Elan.

Clod am y ddelwedd: ©Sam Price

Lleoliad

Glaslyn Nature Reserve, near Dylife, Powys

Map yr Ordnans 215. Cyfeirnod grid: SN 826941.
Gwefan

Profwch y trysor cudd hwn yng ngwylltineb, anialdir Cymreig.  Cerddwch drwy rhosydd ar yr ucheldiroedd i lyn anghysbell.  Mae yno gannoedd o blanhigion, cennau, pryfed ac adar wedi’u cofnodi, ac arddangosfa nodedig o weunblu sidan ym mis Mehefin, i’w ddilyn gan y grug porffor ym mis Awst.

Clod am y ddelwedd: ©Dafydd Wyn Morgan

Lleoliad

Dolydd y Ficerdy, Abergwesyn, Powys

Map yr Ordnans 187. Cyfeirnod grid: SN 850 526
Gwefan

Un o ardaloedd mwyaf botanegol cyfoethog Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, ac mae’r ddolydd bywyd gwyllt a thiroedd pori gwlyb yn cael eu rheoli’n draddodiadol.  Yn y gwanwyn, mae llawer o glychau’r gog yn tyfu yma, ac fe’u dilynir gan amrywiaeth blodeuog o Degeirianau, Dannog y Coed, Llysyrawd, Llafn y Bladur a’r Banhadlen Aur.  Mwynhewch yr amrywiaeth o löynnod byw a phryfed sy’n ymweld â’r ddôl yn y lle arbennig hwn.

Clod am y ddelwedd: ©Dafydd Wyn Morgan

Lleoliad

Gallt y Tlodion,Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin

Map yr Ordnans  187. Cyfeirnod grid: SN 781 351
Gwefan

Wedi’i leoli ar gyrrion Llandymddyfri, mae’r ucheldir derw hynafol yn llawn  planhigion, mwsoglau a chennau sy’n byw yn y coedtiroedd.  Rhoddodd Ficer Pritchard y fforest 41 erw i bobl tref Llandymddyfri gyda’r dymuniad: “Fe all unrhyw ddyn tlawd casglu’r pren sy’n syrthio ar y llawr, ac unrhyw deithiwr blinedig orffwys ei ben.”

Clod am y ddelwedd: ©Dafydd Wyn Morgan

Lleoliad

Porthiant Lluniau o Wybren y Nos

Hoffwn i’n holl ymwelwyr rannu eu profiadau a’u lluniau o wybren y nos. Rhannwch eich
delweddau gyda ni ar instagram trwy ddefnyddio’r hashnod #CambrianMountainsDarkSkies ac
ychwanegwch i’r Porthiant delwedd isod.